C(5)035 - Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn Rhan 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2020. Felly bydd Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i Ddeddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Ionawr 2020 neu ar ôl 1 Ionawr 2020, ac i is-offerynnau Cymreig a wneir ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn diwygio darpariaethau sy’n cyfeirio at y diwrnod y daw Rhan 2 i rym, er mwyn iddynt gyfeirio at 1 Ionawr 2020 yn lle hynny.
Gweithdrefn
Dim gweithdrefn.
Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn:
1. Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn yn diwygio adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978. Mae dechrau'r fersiwn Saesneg o erthygl 4 yn nodi (yn gywir): “In section 23B…”. Ond mae dechrau'r fersiwn Gymraeg o erthygl 4 yn nodi (yn anghywir): “Yn lle adran 23B…”.
Fodd bynnag, rydym yn derbyn bod y cyd-destun yn gyffredinol yn ei gwneud yn glir beth y mae erthygl 4 yn ceisio'i gyflawni.
2. Nodwn fod y Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adran 38 (sy'n cynnwys pŵer i wneud rheoliadau) ac o dan adran 44(2) (sy'n cynnwys pŵer i wneud gorchymyn) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, a bod adran 39 o'r Ddeddf honno, mewn ffordd ddefnyddiol, yn caniatáu i Weinidogion Cymru arfer pŵer i wneud rheoliadau a phŵer i wneud gorchymyn mewn un offeryn (wedi'i labelu'n orchymyn yn yr achos hwn).
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol